Mae Ymdeithio ar gyfer Alzheimer’s Society yn ffordd wych i gefnogi’r achos wrth herio’ch hun

Roedd Alex Roberts, ym Manceinion, wedi dotio’n llwyr gan yr awyrgylch a’r olygfa pan gyflawnodd hi Trek Up Snowdon haf y llynedd.

Darllenwch y stori hon yn Saesneg

Mae dementia cymysg ar fy mam ac mae gan Dad ddementia clefyd Parkinson, ac roedd gan chwaer Mam ddementia hefyd. 

Rown ar wyliau blynyddol yn y gwanwyn ac yn meddwl yr hoffwn herio fy hun, ac Alzheimer’s Society yw’r elusen berffaith i’w chefnogi.

Rwyf wedi defnyddio llawer o adnoddau ar-lein y Gymdeithas. Rwyf eisiau gwybod bob amser oes ‘na fesurau pellach y gallaf yn eu rhoi yn eu lle i helpu, ac fe’u defnyddiais yn ddiweddar ynghylch a ddylwn ddweud wrth Mam bod ei chwaer wedi marw. Pan rwyf eisiau gwybodaeth, rwy’n troi at Alzheimer’s Society. 

Alex Roberts

Roedd gwneud y daith gerdded gyda phobl yn yr un sefyllfa yn gymhelliant mawr. Roeddwn yng nghwmni’r sawl oedd bron yn ddieithriaid, ond â phrofiad ar y cyd. Ac rwyf wedi bod eisiau dringo’r Wyddfa erioed!

Syfrdanol 

Synnais o weld cynifer o bobl oedd yn ei wneud. Cyrhaeddom Lanberis y diwrnod blaenorol ac roedd yn syfrdanol, un o’r lleoedd gorau i mi fod ynddo erioed. 

Yn fy llety, clywais wraig ar y ffôn oedd yn gwneud y daith, felly roeddwn yn siarad ag eraill yn syth. Erbyn diwedd y daith mae gennych chi’r ffrindiau newydd hyn. 

Dechreuom ni fesul ychydig o ran nifer oherwydd y pandemig, er mwyn osgoi bod gormod o bobl mewn grŵp, felly roedd y mynydd wedi ei orchuddio mewn crysau T Alzheimer’s Society! 

Alex Roberts

Roedd dringwr profiadol yn ein harwain, ac roedd yna fannau serth ond yna’r golygfeydd godidog – roedd yn hollol wych.

Roedd yna awyrgylch arbennig o dda ac ymdeimlad o gyfeillgarwch. 

Ar ôl y flwyddyn roeddem wedi ei chael, roedd cael y cyfle i fod allan yn unrhyw le, ond yn enwedig ar ochr mynydd, yn hollol anhygoel.

Codais £940 (roeddwn wedi disgwyl £300!) a buaswn yn annog eraill 100% i wneud ymdaith. Mae’n helpu i fynd a gwneud rhywbeth sydd yn teimlo’n wirioneddol fel petai’n helpu. 

Heriau Ymdeithio

Dysgwch fwy am Trek Up Snowdon, Trek26 a llawer o rai eraill – gan gynnwys trefnu eich taith gerdded neu ymdaith eich hun (yn Saesneg).

Dod o hyd i ymdaith

Dementia together magazine

Dementia together magazine is for all Alzheimer’s Society supporters and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Dementia together magazine is for all Alzheimer’s Society supporters and anyone affected by the condition.
Subscribe now
Categories